Y Grŵp Trawsbleidiol ar Les Anifeiliaid – Cross-Party Group on Animal Welfare

Dyddiad: 19/02/2024

Lleoliad: Zoom

Yn bresennol

Carolyn Thomas AS

John Griffiths AS (Lily Gray, aelod o staff cymorth yr Aelodau,  yn bresennol)

Jayne Bryant AS (Lily Gray, aelod o staff cymorth yr Aelodau,  yn bresennol)

Dan Rose (aelod o staff cymorth Carolyn Thomas AS)

 

Shahinoor Alom (Ysgrifenyddiaeth, y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon)

 

Clare Hutchinson (BBC Wales)

Paul Reynolds (Cyngor Adsefydlu Bywyd Gwyllt Prydain)

Fiona Pereira (Animal Aid)

Billie-Jade Thomas (RSPCA Cymru)

Vanessa Waddon (Hope Rescue)

Alex Findlow (Dogs Trust UK)

Ed Hayes (The Kennel Club)

Daryl Gordon (Cats Protection UK)

Tim Doyle (Achub Milgwn Cymru)

Joan Whittaker (Almost Home Dog Rescue)

Richard Woodward (Y Groes Las)

Dewi John (Dogs Trust UK)

Ann Woods (Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint)

Mike Bird (RSPCA, Aberconwy)

 

Ymddiheuriadau

Peredur Owen Griffiths

Llyr Gruffydd

Delyth Jewell

Bronwen Dennis (Y Groes Las)

 

Crynodeb o'r cyfarfod

Cyflwyniad, cymeradwyo’r cofnodion a diweddariad ar gamau gweithredu.

Dechreuodd CT gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol drwy ddiolch i bawb a oedd yn bresennol. Tynnodd sylw at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch trwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, gan nodi y bydd yn dod i ben ddydd Gwener 1 Mawrth. Thema'r cyfarfod hwn fydd sefydliadau lles anifeiliaid.

Yn sgil y camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod blaenorol:

·         Cododd CT bwnc pwysig yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, sef caniatâd i gael anifeiliaid anwes yng nghyd-destun landlordiaid preifat. Bydd y Pwyllgor yn archwilio’r mater hwnnw ymhellach. Bydd Cats Protection UK and Dogs Trust UK yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 13 Mawrth. 

·         Ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf, bydd y posibilrwydd o gynnal cyfarfod ar y cyd â’r grwpiau trawsbleidiol ar blant, tlodi a menywod yn cael ei drafod gyda chadeiryddion y grwpiau dan sylw, a hynny mewn perthynas â cham-drin domestig.

 

Ymchwiliad y BBC i sefydliad Capricorn Animal Rescue

Clare Hutchinson, newyddiadurwr yn y BBC

Bu CH yn gweithio ar y rhaglen Week In, Week Out rhwng 2016 a 2023, a bu’n rhan o’r broses o gynhyrchu rhaglen ar loches anifeiliaid yng Ngogledd Cymru a oedd yn destun pryderon o ran lles a materion eraill.

Anfonwyd gohebydd cudd i mewn i'r lloches anifeiliaid dan sylw, sef Capricorn Animal Rescue, a daeth y gohebydd hwnnw o hyd i tua 350 o anifeiliaid yno. Nodwyd mai aelod unigol o staff, ynghyd â nifer fach o wirfoddolwyr, oedd yn gofalu am yr ystod eang o anifeiliaid hyn y rhan fwyaf o’r amser.

Y prif faterion a ddaeth i’r amlwg yn y loches oedd yr amodau budr, gorlenwi, diffyg mynediad at ddŵr a rheolaeth wael o afiechydon. Tynnodd y gohebydd cudd sylw at y ffaith mai ychydig iawn o hyfforddiant a roddwyd iddo ynghylch beth i'w wneud. Yna, siaradodd am y cathod a oedd yn rhannu gofodau gorlawn ac yn eistedd yn eu hysgarthion eu hunain, gan ddangos arwyddion clir o afiechyd.

Roedd anifeiliaid eraill yno, fel ieir, cwningod, gwiwerod, colomennod ac ymlusgiaid. Roedd ystod enfawr o anifeiliaid yno, ond roedd niferoedd isel o staff a gwirfoddolwyr yn helpu i’w cadw. Roedd gan yr anifeiliaid hyn fynediad cyfyngedig iawn i ddŵr. Dangosodd y gohebydd ei ffilm i filfeddyg, gan sôn am y ffaith bod arwyddion clir o arferion gwael o ran rheoli afiechydon.

Roedd pryderon hefyd ynghylch sut yr oedd yr elusen yn cael ei rheoli, gan ei bod yn denu symiau sylweddol o arian. Yn 2015, codwyd tua £250,000 gan yr elusen, a hynny drwy siopau elusen, rhoddion a chymynroddion. Arweiniodd yr adroddiad hwn at ymchwiliad gan y Comisiwn Elusennau. Yn y pen draw, arweiniodd yr ymchwiliad hwnnw at ddiarddel perchennog yr elusen a'i wahardd rhag gallu rhedeg elusen eto.

Dywedodd AW o Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint fod y gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau glas mewn amodau erchyll, gan nodi bod y gwirfoddolwyr wedi cysylltu â’r cyngor gwirfoddol i ofyn am gymorth.

Rhannodd DR ei brofiadau fel un o wirfoddolwr Capricorn, a chododd bryderon ynghylch y rheoliadau sy’n berthnasol i gyrff lles anifeiliaid. Dywedodd fod angen llawer iawn o brofiad a dealltwriaeth wrth drwyddedu, gan fod angen sicrhau bod trefn gadarn a thrylwyr ar waith. Mae hwn yn fater i Lywodraeth Cymru ei ystyried wrth drafod y drefn reoleiddio.

 

Nid oedd camau gweithredu yn deillio o'r eitem hon.


Rheoliadau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn yr Alban.
Paul Reynolds, Is-gadeirydd Cyngor Adsefydlu Bywyd Gwyllt Prydain

Rhoddodd PD gyflwyniad byr ar Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (yr Alban) 2021. Daeth y rheoliadau i rym yn yr Alban ym mis Medi 2021, gan gyflwyno gynllun trwyddedu diwygiedig ar gyfer rhai gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid. Ym ogystal, gwnaeth y rheoliadau ddisodli’r ddeddfwriaeth flaenorol a oedd yn ymwneud â gwerthu anifeiliaid anwes a bridio cŵn. Rhoddwyd pwerau trwyddedu i awdurdodau lleol, ac eithrio mewn perthynas â sefydliadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r Alban ond sy’n cyflawni eu gweithgarwch trwyddedadwy yn yr Alban. Yn yr achos hwnnw, Llywodraeth yr Alban fyddai’r awdurdod trwyddedu.

Yn yr Alban, mae sefydliad lles anifeiliaid yn fannau lle gofalir am anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael, neu sydd fel arall wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu ceidwaid, neu sy’n sâl, neu sydd wedi’u hanafu neu wedi cael eu dal, ac anifeiliaid a oedd eisoes yn byw mewn amodau gwyllt. Mae canolfannau achub bywyd gwyllt hefyd wedi’u cynnwys, yn wahanol i’r drefn yn Lloegr. Dim ond trwydded sydd ei hangen ar weithredwyr sefydliadau lles anifeiliaid. Os oes nifer penodol o anifeiliaid yn cael eu cadw yn y sefydliad lles anifeiliaid, bydd y trothwy perthnasol yn cael ei fodloni. Er enghraifft, 5 ci neu 5 ceffyl, neu 5 anifail sy’n cynnwys cymysgedd o gŵn a cheffylau, neu gymysgedd o 8 anifail o unrhyw fath, ac eithrio unrhyw anifail o dan 4 mis oed, a aned o fewn y sefydliad lles anifeiliaid neu a dderbyniwyd gan y sefydliad lles anifeiliaid, ynghyd â’r fam.

Roedd amodau cyffredinol y drwydded yn cwmpasu 10 maes gwahanol, a siaradodd PR am y meysydd hyn. Y meysydd dan sylw oedd:

1.     Arddangos trwydded

2.     Cofnodion

3.     Nifer yr anifeiliaid

4.     Staffio

5.     Amgylchedd addas

6.     Deiet addas

7.     Cyfoethogi bywydau anifeiliaid a’u hyfforddi

8.     Trin anifeiliaid a rhyngweithio ag anifeiliaid

9.     Diogelu rhag poen, dioddefaint, anaf ac afiechyd

10.  Argyfyngau


Nid oedd camau gweithredu yn deillio o'r eitem hon.

Ymgyrch i wahardd rasio milgwn

Ymgyrch Cut the Chase
Rhoddodd VW drosolwg o'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr ymgyrch. Soniodd fod Valley Track Watch, yn ogystal â gwirfoddolwyr, yn monitro digwyddiadau wrth i gŵn ddisgyn yn ystod rasys. Mae'r gwirfoddolwyr yn sefyll ger y trac, yn gwylio unrhyw ddigwyddiadau ar y trac yn ofalus.


Dywedodd VW fod yr ymateb yn mynd rhagddo’n hwylus. Nododd fod yr unig draciau rasio milgwn bellach yn cael eu trwyddedu gan y GBGB,
a bod hyn yn cryfhau’r ddadl nad yw’r rheoliadau wedi gwella lles yr anifeiliaid i safon foddhaol. Ni fydd ateb o ran trwyddedu hyfforddwyr, gan mai barn y glymblaid yw na fydd unrhyw reoliadau yn gallu amddiffyn milgwn yn llawn.

Daeth nifer fawr o Aelodau o'r Senedd i gael tynnu eu lluniau.

Dywedodd TD fod Achub Milgwn Cymru wedi cyflwyno llythyr ar y cyd ag ymddiriedolaeth Forever Hounds i dîm lles y GBGB, yn mynegi pryderon am rai o'r cŵn a gymerwyd i mewn yn ddiweddar a'r ffordd y maent wedi cael eu cadw cyn eu hailgartrefu. Mae Achub Milgwn Cymru yn awyddus i'r GBGB gynnal arolygiad.

Yn ei hymateb, soniodd JW am y ffaith ei bod yn canolbwyntio ar y niwed seicolegol y mae’r milgwn yn ei ddioddef.

Dywedodd SA fod y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon wedi rhannu neges e-bost â chefnogwyr, yn galw arnynt i weithredu, a hynny er mwyn eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae’r gynghrair wedi ei rhannu hefyd ar gyfryngau cymdeithasol, gyda hysbysebion noddedig.

 

Nid oedd camau gweithredu yn deillio o'r eitem hon.

 

Unrhyw fater arall

·         Bydd cyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol yn cael ei gynnal ar ffurf Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 22 Ebrill 2024.